1.       Yn 2014 roedd hi’n fraint i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru fod yn rhan o lansiad y model Cymraeg byd-eang ar gyfer Microsoft Translator. Rydym yn falch iawn, felly, fod y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu parhau i ddatblygu ei berthynas gyda Microsoft. Bydd hyn yn siŵr o arwain at ddatblygu a gwella ymhellach yr opsiwn Cymraeg o fewn Microsoft Translator. Mae hyn, wrth gwrs, yn hanfodol os yw’r feddalwedd i fod yn un gwerth ei defnyddio. Mae’r ffaith fod defnyddio’r feddalwedd hon wedi cynyddu effeithlonrwydd cyfieithwyr hyd at 20% i’w groesawu ac yn dangos ei fod yn erfyn pwysig ac effeithiol i gyfieithwyr wrth eu gwaith. I eraill sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, bydd yn gymorth gwerthfawr iddyn nhw yn eu cyfathrebu, a nodwn eich bod yn cynnig cyngor a hyfforddiant er mwyn sicrhau fod y dechnoleg yn cael ei ddefnyddio’n briodol.

Rydym yn falch iawn y bydd papur ar y modd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn defnyddio technoleg cyfieithu peirianyddol yn cael ei gyflwyno gan un o’ch cyfieithwyr yng Nghynhadledd yr Institute of Translation and Interpreting, un o gynadleddau pwysicaf y byd cyfieithu, yng Nghaerdydd ym mis Mai 2017, a hynny ar anogaeth y Gymdeithas hon.

2.      Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol dîm ardderchog o gyfieithwyr ar y pryd medrus a galluog, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n aelodau Cyfieithu ar y Pryd o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn golygu y gall pob un gyfrannu at y trafodaethau yn ei ddewis iaith yn ddirwystr. Bydd y gwasanaeth hwn, felly, yn bwysig wrth weithredu’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd. Mae dyfyniad Heledd Roberts o swyddfa Rhun ap Iorwerth AC yn yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol yn brawf diamheuol o hyn.

3.       P’un ai Microsoft Translator neu gyfieithu ar y pryd, yr hyn sy’n bwysig yw bod yr Aelodau a’r staff yn defnyddio’r holl adnoddau a chyfleusterau sydd ar gael iddyn nhw er mwyn sicrhau y caiff y Gymraeg ei defnyddio’n naturiol yng ngwaith y sefydliad.